Senedd Sbaen
Mae 11 o deithwyr wedi eu hanafu ar ôl i gwymp cerrig fwrw trên oddi ar y cledrau yn Sbaen. Fe blymiodd y cerbyd cynta’ i mewn i afon ger dinas ogleddol Santander.

Mae tri o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn Santander a Torrelavega gydag anafiadau difrifol, tra bod wyth o bobol wedi derbyn cymorth cynta’ i’w mân anafiadau.

Roedd glaw trwm wedi bod yn syrthio yn Cabezon de la Sal, 280 milltir (450km) i’r gogledd o brifddinas Sbaen, Madrid.

Fe gafodd deifwyr eu galw i safle’r ddamwain, ond mae Renfe – y cwmni sy’n gyfrifol am y gwasanaeth trên – yn dweud nad oedd angen defnyddio’r deifwyr gan fod pob teithiwr yn ddiogel.