Mae hunanfomiwr wedi targedu confoi llywodraethwr wrth ffrwydro ei ddyfais ger ysbyty yn ne Afghanistan heddiw.

Yn ôl yr awdurdodau, mae’r llywodraethwr, Mohammad Ashraf Nasery, wedi goroesi’r ymosodiad yn Zabul. Ond mae meddyg wedi ei ladd, a thri gwarchodwr wedi eu hanafu.

Yn ôl adroddiadau, fe ddaeth yr hunanfomiwr at yr ysbyty ar droed a ffrwydro’r ddyfais fel yr oedd y llywodraethwr yn dod ar ymweliad â’r ysbyty.

Mae’r Taliban a grwpiau eraill wedi cynyddu nifer yr ymosodiadau ar swyddogion yn Afghanistan, wrth i’r Unol Daleithiau a lluoedd tramor eraill baratoi i adael y wlad yn 2014.