Yr Archesgob Desmond Tutu
Mae’r Archesgob Desmond Tutu wedi cael ei enwi fel enillydd gwobr £1.1 miliwn am “gadarnhau dimensiwn ysbrydol bywyd”.
Dywed trefnwyr Gwobr Templeton 2013 iddyn nhw ei dyfarnu iddo am ei waith gydol oes yn hyrwyddo egwyddorion ysbrydol fel cariad a maddeuant sydd wedi helpu rhyddhau pobl ledled y byd.
Wrth dderbyn y wobr, meddai cyn-archesgob Anglicanaidd Cape Town, sy’n 81 oed:
“Pan ydych chi mewn tyrfa a chwithau’n sefyll allan o’r dyrfa mae hynny fel arfer oherwydd eich bod chi’n cael eich cario ar ysgwyddau pobl eraill.
“Hoffwn gydnabod pawb o’r bobl ragorol sydd wedi fy nerbyn i fel eu harweinydd gartref ac felly i dderbyn y wobr hon ar eu rhan.”
Cafodd y wobr ei sefydlu yn 1972 gan y buddsoddwr a’r philanthropydd Syr John Templeton i hyrwyddo dealltwriaeth ryngwladol o gwestiynau mawr bywyd. Enillydd y wobr y llynedd oedd y Dalai Lama, arweinydd ysbrydol Bwdaidd Tibet.