Dafydd Elis-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, wedi galw am ymchwiliad i effeithiau’r tywydd eithafol ar amaethyddiaeth Cymru.

Dywed AC Dwyfor Meirionnydd fod angen chwilio am atebion yn y tymor hir ynghylch sut i gefnogi’r busnesau amaethyddol sydd wedi dioddef.

Mewn llythyr at y Gweinidog Bwyd ac Adnoddau Naturiol, mae’n cynnig fod y pwyllgor yn ymchwilio

  • i effeithiau tymor-byr y tywydd garw diweddar,
  • i’r effaith yn y tymor hir ar fusnesau amaethyddol Cymreig, ac
  • effaith newid hinsawdd ar arferion ffermio yng Nghymru.

“Fy mwriad yw gofyn i gyd-aelodau’r pwyllgor gytuno i gynnal ymchwiliad nid yn unig i’r argyfwng penodol tymor byr, ond hefyd i ystyried y canlyniadau mwy tymor hir ar y busnesion amaethyddol yr effeithiwyd arnynt,” meddai Dafydd Elis-Thomas yn y llythyr.

“Hoffwn hefyd i ni fel pwyllgor ystyried y digwyddiad tywydd garw ‘annhymhorol’ yng nghyd-destun effaith debygol newid yn yr hinsawdd ar batrwm amaethyddiaeth yn yr ucheldiroedd yn y dyfodol, ac yn enwedig ar y tymor wyna, a’r arfer o wyna defaid mynydd Cymreig yn yr awyr agored. ”

Mae’r Arglwydd Elis-Thomas hefyd yn cynnig y dylai arbenigwyr ymchwilio i weld sut y byddai modd cryfhau polisi amaethyddol, gan edrych i mewn i atebion ymarferol fel buddsoddi mewn siediau wyna ar dir uchel:

“Awgrymaf hefyd y byddai yn fuddiol gofyn i arbenigwyr ymchwilio sut i gryfhau polisi amaethu’r ucheldiroedd yn y dyfodol, gan ddiogelu gwerth y diwydiant i’r economi wledig ac i allforion Cymru, ac ateb yr amcanion amgylcheddol a chymdeithasol angenrheidiol yr un pryd.

“Cynlluniau ymarferol o fuddsoddi mewn amaethyddiaeth gynaliadwy ddylai fod yn flaenoriaeth.”