Dylan Thomas
Mae nifer o feddi wedi cael eu dinistrio gan foch daear yn y fynwent lle mae’r bardd Dylan Thomas wedi’i gladdu.
Cysylltodd nifer o deuluodd â’r Aelod Seneddol lleol, y Ceidwadwr Simon Hart, i gwyno bod tyllau wedi cael eu palu ar draws fynwent Eglwys San Martin yn Nhalacharn.
Mae’r fynwent yn denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn yn y pentref lle mae nifer o atyniadau’n ymwneud â bywyd y bardd.
Mae croes wen ag enw’r bardd arni yn nodi’r fan lle cafodd Dylan Thomas ei gladdu.
Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Simon Hart: “Cysylltodd dynes â fi oedd wedi gweld cryn dipyn o ddifrod ar fedd ei rhieni.
“Wrth reswm, mae hi wedi’i hypsetio’n ofnadwy ac mae hi hefyd yn gofidio y bydd yn niweidio’r garreg fedd.
“Nid yw’r broblem yn un anghyffredin mewn mynwentydd ledled y wlad ond oherwydd bod moch daear wedi’u hamddiffyn mor gryf, mae’n achosi pen tost i awdurdodau’r eglwysi.
“Mae hon yn fynwent hardd iawn ac yn amlwg yn rhywle ystyrlon iawn, nid yn unig i ddilynwyr Dylan Thomas sy’n ymweld o bob rhan o’r byd, ond i deuluoedd a chanddyn nhw anwyliaid wedi’u claddu yno.”
Ychwanegodd fod y moch daear wedi palu tyllau ac wedi gadael tomenni o bridd ar draws y fynwent.
Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru ac arbenigwyr anifeiliaid wedi bod yn y fynwent ac wedi cadarnhau mai moch daear oedd yn gyfrifol.
Gallai’r eglwys wneud cais i gael gwared ar y moch daear, ond mae’n broses ddrud.
Opsiwn arall sydd gan yr eglwys yw cryfhau’r ffens o gwmpas y fynwent er mwyn cadw’r moch daear allan.
Dywedodd llefarydd ar ran yr eglwys eu bod nhw’n ceisio penderfynu ar y cam nesaf.