Mae dau gorff wedi eu canfod mewn pentre’ yn Swydd Caergrawnt, ac mae’r heddlu’n trin y marwolaethau fel rhai “heb eglurhad”.

Fe gafodd swyddogion eu galw gan aelod o’r cyhoedd a ddaeth o hyd i’r cyrff yn Thorney ger Peterborough.

“Fe gawson ni’n galw toc cyn 11.30am gan aelod o’r cyhoedd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Ar hyn o bryd, mae’r marwolaethau’n cael eu trin fel rhai heb eglurhad.”