Mae tri dyn yn wynebu carchar am oes, ar ôl i lys eu cael yn euog o guro treisiwr plant i farwolaeth.
Fe gafodd Geoffrey Reed, 57, eu daro gyda gwrthrych tebyg i forthwyl, cyn cael ei stampio a’i gicio yn ei fflat yn Bournemouth. Y brodyr Stuart Wareham a Lee Wareham a’u ffrind Benjamin Walter oedd yn gyfrifol.
Fe ddioddefodd Mr Reed anafiadau ofnadwy. Roedd ei benglog, ei asennau, asgwrn ei frest a’i wddw wedi torri.
Wedi’r ymosodiad ar Fehefin 7 y llynedd, fe fu Stuart Wareham, 26, yn brolio mewn llythyr, “Dyna un pedoffeil yn llai ar y strydoedd…”
Fe fydd y tri yn cael eu dedfrydu fory.