Mae datblygiad tai a gafodd ei wrthod ym mis Rhagfyr o achos ei effaith ar y Gymraeg, bellach yn cael mynd yn ei flaen.
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo codi 289 o dai ym Mhenybanc ger Rhydaman, 47 yn llai nag oedd yng nghynllun gwreiddiol Swallow Homes.
Mae canran y siaradwyr Cymraeg yn lleol wedi disgyn i 54% yn ôl Cyfrifiad 2011 ac wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y Cyngor Sir fod grŵp ymchwil wedi ei sefydlu gan gynghorwyr i edrych ar y rhesymau dros ddirywiad y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.
‘Y Gymraeg wedi ei hystyried yn barod’
Roedd nifer o gynghorwyr wedi mynegi pryder am effaith datblygiad tai Tirychen ar yr iaith ond dywedodd Pennaeth Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin, Eifion Bowen, fod y Gymraeg eisoes wedi cael ei hystyried cyn argymell y safle.
“O ran yr effaith ar y Gymraeg, mae’r safle wedi’i ddynodi yn y Cynllun Datblygu Unedol yn safle ar gyfer tai. Fel rhan o drafodaethau’r Cynllun Datblygu Unedol, a gymeradwywyd gan Arolygydd Cynllunio, roedd y safleoedd hyn yn destun amryw o brofion ac ystyriaethau, un o’r rhain oedd yr effaith ar y Gymraeg.
“Er mwyn i’r safle fod wedi cael ei neilltuo, byddid wedi barnu y byddai’r effaith ar y Gymraeg yn dderbyniol er mwyn caniatáu ystyried y safle yn un a neilltuwyd ar gyfer datblygu tai,” meddai Eifion Bowen.
‘Datblygiad dinesig ar gyfer ardal wledig’
Ond mae cynghorydd lleol yn gofidio bydd y tai yn ergyd i’r Gymraeg.
“Dim ond 400 o dai sydd yn Penybanc,” meddai Alun Davies, sy’n un o ddau gynghorydd sy’n cynrychioli ward Saron.
“Bydd hyn yn cael effaith negyddol iawn achos dim pobol leol fydd yn symud yma.
“Mae 600 o dai ar werth yn ardal Rhydaman yn barod felly does dim angen yr holl dai.
“Mae’r ysgolion a’r meddygfeydd yn llawn yn barod a mae rhai o blant Saron yn cael addysg mewn portacabins.
“Does dim lle ar gyfer yr holl dai a’r holl geir. Datblygiad dinesig yw hwn ar gyfer ardal wledig,” meddai’r Cynghorydd Alun Davies.
Dywedodd fod grŵp lleol yn cwrdd nos Wener er mwyn trafod rhoi stop ar y cynllun, gan gynnwys cyfeirio Tirychen at y Gweinidog yn y Llywodraeth ym Mae Caerdydd, a gofyn i’r ombwdsmon ymyrryd.