Mae dros 200 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn y protestiadau tros chwifio baner Jac yr Undeb ar neuadd yn ninas Belffast.
O blith y 229 o bobol sydd wedi cael eu dal a’u holi fel rhan o Ymgyrch Dulcet, roedd 174 o’r rheiny am amrywiaeth eang o droseddau – o gynnal cyfarfod gwrthryfelgar, cwffio, ymgynnull yn anghyfreithlon, ymosod ar yr heddlu, a difrod troseddol.
Mae 62 o bobol wedi cael eu riportio i’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus, yn cynnwys rhai na chafodd eu harestio.
Mae 30 o bobol eraill wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.