Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc
Mae arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi addo y bydd e’n cael gwared â phobol sydd wedi eu cael yn euog o lygredd, o fywydd cyhoeddus y wlad.

Fe ddaw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg fod ei brif gasglwr trethi wedi bod yn cuddio arian yn y Swistir am ddegawdau.

Wrth annerch ar deledu Ffrainc, a chan ysgwyd ei ddwrn yn yr awyr, fe ddywedodd Francois Hollande fod gweithredoedd y cyn-weinidog Cyllideb, Jerome Cahuzac, yn “anfoesol”, ac addawodd ddiwygio’r drefn er mwyn osgoi dim byd tebyg eto.

Mae’r diwygiadau yn cynnwys rhwystro pobol sydd wedi eu cael yn euog o lygredd neu o osgoi talu trethi, rhag dal swydd gyhoeddus.