Bluefields
Ers ugain mlynedd mae dirprwyaethau o Gymru wedi bod yn ymweld â Nicaragua yng Nghanolbarth America fel rhan o Ymgyrch Cymru-Nicaragua, i ddangos cefnogaeth i bobol y wlad wrth iddi ddatblygu, cefnogi prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol a dysgu rhagor am wleidyddiaeth a diwylliant y wlad aml-ethnig, gymleth a beiddgar hon.
Fis diwethaf roedd Haf Elgar yn rhan o ddirprwyaeth o ddeg a ymwelodd â Nicaragua am bythefnos. Mewn blog arbennig i Golwg360 mae’n sôn am ei phrofiadau yn rhanbarth Arfordir y Caribï.
Mae cyrraedd tref Bluefields fel camu i fyd gwahanol – hyd yn oed o’i gymharu â’r brifddinas Managua lle cyrhaeddon ni ychydig ddyddiad ynghynt. Y golau, lliwiau a gwres sy’n taro gynta’ wrth gamu oddi ar yr awyren fach simsan a’n cludodd yno – lle lliwgar, llachar, clòs a hamddenol, yn llawn arogleuon a sbwriel ar hyd y strydoedd ond y bobol yn hynod gyfeillgar gyda phob un yn ein cyfarch gyda ‘Buenos Dias’ neu ‘Mornin’ yn y Creole.
Golygfa o harbwr Pearl Lagoon
Llain hir ar hyd ochr ddwyreiniol Nicaragua yw Arfordir y Caribï, ac er nad yw’r wlad yn fawr, mae’r fforest drofannol rhwng y gorllewin a’r dwyrain, a diffyg ffyrdd, wedi ei gadw’n rhanbarth ar wahân.
Mae’n frith o gymunedau aml-ethnig, gyda dylanwad Caribïaidd cryf a chymysgwch o bobloedd frodorol canolbarth America, disgynyddion Affricanaidd, a’r Mestizo sy’n fwyafrif poblogaeth Nicaragua. Dyma bobloedd – y Miskitu, Rama, Garifuna a Creole – gydag ieithoedd a thraddodiadau ei hunain o hyd.
Ac yn debyg i Gymru, mae hunaniaeth gref ei hun gan Arfordir y Caribï, a balchder o’u hymreolaeth, eu hieithoedd a’u diwylliant.
Dim ond ym 1987 y cydnabuwyd pobloedd heblaw am y Mestizo gan gyfansoddiad Nicaragua, wedi canrif o goloneiddio, gorthrwm ac unbennaeth. Eglurodd Johnny Hodgson, ysgrifennydd gwleidyddol y blaid Sandinista ar yr arfordir, wrthym fel y trosglwyddwyd hawliau tir, addysg, ieithyddol ac adnoddau naturiol yn ôl i’r pobloedd brodorol yn raddol wedi hynny. A gosodwyd strwythurau cyfansoddiadol yn eu lle, gyda dau ranbarth gweinyddol yn ne a gogledd Arfordir y Caribï, gyda seneddau rhanbarthol.
Mae yno hefyd dlodi enbyd, a diffyg datblygiad sylfaenol tu allan i’r trefi, gydag ymdrechion mawr i ledaenu isadeiledd trydan a dŵr, ac ynni solar yn cael ei ddefnyddio mewn rhai cymunedau pellennig.
Gorman yn dangos arddangosfa trais yn erbyn menywod
Gobaith Gorman
Ym mudiad hawliau dynol CEDEHCA cwrddon ni a Gorman, gwr ifanc sy’n rhedeg prosiectau ieuenctid. Dywedodd wrthym am y problemau sy’n wynebu pobol ifanc; miloedd ohonynt heb dystysgrifau geni oherwydd cost ac anllythrennedd. Heb swyddi ers degawdau a heb obaith ar y gorwel mae trais yn y cartref yn broblem fawr, yr arian mawr o smyglo cyffuriau yn denu, a phuteindra’n cael ei orfodi ar rai. Mae diniweidrwydd plentyndod yn fregus ac yn dod i ben yn ifanc iawn yma.
Ond nid stori o anobaith na hunan dosturi oedd gan Gorman. Gyda gwen ar ei wyneb a doethineb gwr llawer hŷn yn ei lygaid roedd e’n obeithiol am ddyfodol yr arfordir a’i phobol ifanc.
Gwelir ymreolaeth wleidyddol ac ymreolaeth bersonol yn mynd law yn llaw, a bod rhaid datblygu hunan-hyder a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw chwarae rôl bositif yn eu cymunedau ac yn natblygiad eu rhanbarth.
Ac mae yna obaith i bobol ifanc, fel y gwelsom ni yn stiwdio newydd ‘System Sain Bluefields’.
Rocco yn y stiwdio
Mae’r ysgol gerddoriaeth yma’n cynnig sgiliau i bobol ddifreintiedig ifanc yr ardal, rhai ohonynt wedi bod yn y carchar neu ar gyffuriau, i hyfforddi fel cerddorion a thechnegwyr cerddorol.
Maen nhw’n cael cyfle i recordio a chynhyrchu caneuon ei hunain, gyda chymorth hen gerddorion traddodiadol yr ardal a chynhyrchwyr profiadol. Fel rhan o brosiect i ddiogelu traddodiadau Creole a brodorol y rhanbarth mae rhai o hen arwyr cerddorol yr ardal wedi cael eu recordio am y tro cyntaf yno, ac mae’n orsaf radio gymunedol.
Bu un o fentoriaid y prosiect, Rocco, yn byw ym Merthyr am gyfnod yn y 90au, gan chwarae miwsig reggae yn nhafarndai’r de, felly braf oedd cael ein cyfarch yn Gymraeg!
Cyflwyno CDs Cymraeg
Ac yn anrheg fe gyflwynon ni ddwsin o gopiau o’r CD Cymraeg aml-gyfranog ‘Deuddeg’ i’r ysgol, i ddangos bywiogrwydd y sin yn ein hiaith frodorol ni, a chael cymharu’r seiniau tra gwahanol.
Mae sŵn Bluefields – y rhythmau reggae, yn fwy diweddar wedi’i gyfuno â rapio, yn llifo trwy‘r dref, a blas Caribïaidd cnau coco a banana i’w groesawi ar ôl ffa a reis beunyddiol.
Wrth i ni adael Bluefields fe ddaeth y glaw trofannol yn sydyn, a’r dilyw yn fyddarol ar y toeau tun. Yn lle’r llwch a gwres daw’r glaw ac arogl pridd a bywyd newydd i’r hen dre, a’n gadael gyda gobaith fod Bluefields yn glasu.