Theresa May
Fe fydd yr Asiantaeth Ffiniau yn cael ei rhannu’n ddwy mewn ymgais i ateb y nifer gynyddol o geisiadau gan ymgeiswyr lloches a mewnfudwyr.
Cafodd y rhaniad ei gyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.
Bydd yr Asiantaeth yn cael ei rhannu’n adran fewnfudwyr a cheisiadau fisa, ac adran sy’n gweithredu cyfreithiau mewnfudo.
Daw’r penderfyniad yn dilyn nifer o adroddiadau ac archwiliadau beirniadol.
Dywedodd Theresa May nad oedd yr Asiantaeth yn gallu ymdopi yn ei ffurf bresennol.
Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin: “Mae’r Asiantaeth wedi bod yn sefydliad mewn trafferth ers iddi gael ei ffurfio yn 2008 a dydy ei pherfformiad ddim yn ddigon da.
“Mewn gwirionedd, chafodd yr Asiantaeth mo’i sefydlu i amsugno lefel y mewnfudo torfol a welon ni o dan y Llywodraeth ddiwethaf.
“Roedd hyn yn golygu nad yw’r Asiantaeth erioed wedi cael y gofod i foderneiddio’i strwythurau a’i systemau nac i fynd i’r afael â’i llwyth gwaith.”
Rhybuddiodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref y byddai’n cymryd 24 o flynyddoedd i’r adran glirio’r pentwr o geisiadau sydd heb eu hateb hyd yn hyn.
Cafodd cyn-bennaeth yr Asiantaeth, Lin Homer ei beirniadu am ei harweinyddiaeth.
Mae hithau bellach yn bennaeth ar Swyddfa Cyllid a Thollau EM.
Fe fydd y ddwy adran newydd yn dod o dan arweinyddiaeth y Swyddfa Gartref, ac ni fyddan nhw yn cael eu hadnabod fel asiantaethau.
Dywedodd fod cadw’r asiantaethau i ffwrdd oddi wrth weinidogion y Llywodraeth wedi bod yn gamgymeriad.
Ychwanegodd y byddai bwrdd newydd yn gyfrifol am oruchwylio gwaith yr adrannau newydd ym meysydd polisïau mewnfudo, y Gwasanaeth Pasbort, Ffiniau a gweinyddu’r ddwy adran newydd.