Jacintha Saldanha
Bydd y cwest i farwolaeth nyrs fu farw ar ôl derbyn galwad ffôn ffug gan gyflwynwyr radio o Awstralia yn cael ei gynnal ar Fai 2.

Cafwyd hyd i gorff Jacintha Saldanha dridiau ar ôl iddi drosglwyddo galwad gan y pâr oedd wedi esgus bod yn aelodau o’r teulu brenhinol oedd yn ffonio i ofyn am gyflwr Duges Caergrawnt, Kate Middleton.

Roedd y Dduges yn yr ysbyty ar ôl dioddef salwch bore difrifol.

Dywedodd y crwner, Fiona Wilcox y bydd y cwest yn cael ei gynnal yn Marylebone yn Llundain.

Roedd teulu’r nyrs yn y gwrandawiad heddiw, ac fe siaradodd yr Aelod Seneddol, Keith Vaz ar eu rhan ar ddiwedd y gwrandawiad.

“Heddiw yw dechrau’r diwedd o ran y broses gyfreithiol ond dydy hynny ddim yn cael gwared ar yr alar ofnadwy mae’r teulu’n dal i ddioddef.

“Bydd yr wythnosau nesaf yn anodd iawn i’r teulu hyd at Fai 2 pan fydd y cwest, wrth gwrs, yn dechrau.

“Mae gan y ddau blentyn arholiadau pwysig iawn i ganolbwyntio arnyn nhw.

“Mae’r rhain wedi bod yn wythnosau ac yn fisoedd ofnadwy iddyn nhw.”

Mae disgwyl i nyrsys a staff diogelwch yr ysbyty roi tystiolaeth yn ystod y cwest.