Fe fydd angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg arbed bron i £1 miliwn yr wythnos er mwyn osgoi bod yn y coch yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywed adroddiad gan y bwrdd iechyd fod angen arbed hyd at £46 miliwn yn ystod y flwyddyn, a bod £18 miliwn wedi’i ganfod eisoes.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth ariannol i’r bwrdd, ond mae’r Gweinidog Iechyd wedi mynnu cael gwybod os yw’r bwrdd iechyd yn gorwario.
Bydd yr adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol mewn cyfarfod cyhoeddus heno.
Mae gan y bwrdd ddiffyg o bron i £20 miliwn, ynghyd â gwariant o £26 miliwn ar gostau maen nhw’n dweud sy’n anhepgor.
Mae’r costau hyn yn cynnwys codiad cyflog o 1%.
Mae yna adroddiadau bod gan y bwrdd £11 miliwn i’w wario ar staff newydd, ond does dim sicrwydd o hyn eto.
Mae Golwg360 wedi gofyn i’r bwrdd iechyd ac i’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford ymateb.