Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn y cafwyd hyd i’w gorff yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Cafodd corff Lewis Martin, 24 oed, ei ddarganfod ar Ffordd Sain Ffagan, yn ardal Y Tyllgoed, toc wedi 9yh nos Sadwrn.

Mae’r heddlu’n yn dweud nad oes esboniad am ei farwolaeth hyd yn hyn.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.