Jeremy Hunt
Fe fydd penaethiaid y GIG sy’n methu yn cael eu gwahardd rhag gweithio yn y gwasanaeth iechyd, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt heddiw.
Roedd Jeremy Hunt yn ymateb i Adroddiad Francis i ffaeleddau difrifol yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Canol Sir Stafford, yn dilyn marwolaeth cannoedd o gleifion yn Ysbyty Stafford rhwng 2005 a 2009 oherwydd diffyg gofal a sylw.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd ei fod yn bwriadu cyflwyno rhestr genedlaethol o enwau rheolwyr sydd wedi methu er mwyn eu gwahardd rhag gweithio yn y gwasanaeth iechyd.
Ond mae wedi datgan ei gefnogaeth i bennaeth y GIG, Syr David Nicholson oedd yn rheoli’r awdurdod iechyd rhanbarthol oedd yn gyfrifol am yr ymddiriedolaeth am gyfnod byr pan oedd cleifion yn cael eu cam-drin.
Mae Jeremy Hunt hefyd wedi dweud y bydd yn penodi Prif Arolygydd Ysbytai a fydd yn gallu cyhoeddi enwau ymddiriedolaethau sy’n perfformio’n wael.
Cadarnhaodd hefyd y byddai ysbytai yn cael eu graddio ar sail eu perfformiad.
Roedd Robert Francis QC, cadeirydd yr ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau Ysbyty Stafford, wedi gwneud 290 o argymhellion yn ei adroddiad ar gyfer rheoleiddwyr iechyd, a’r Llywodraeth.