Mae nifer yr achosion o’r frech goch wedi dyblu o fewn y tair wythnos ddiwethaf medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd 200 o achosion yn ardal Abertawe ar Fawrth 4 ond bellach mae’r nifer wedi codi i 432.

Roedd 116 achos dros yr wythnos ddiwethaf yn unig ac mae 51 o bobol wedi gorfod mynd i’r ysbyty.

‘Mwy o frechiadau’

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod angen i fwy o blant gael eu brechu.

“Mae’r frech goch yn lledaenu ar raddfa frawychus yng Nghymru,” meddai Dr Marion Lyons o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Mae’n ofidus fod degau o filoedd o blant yng Nghymru sydd dal yn agored i ddal yr haint ond mae ein ffigurau ni yn dangos dim ond cynnydd bychan yn  nifer y brechiadau MMR.

“Os na fydd y niferoedd o rieni sy’n dod â’u plant i gael brechiad MMR yn cynyddu’n gyflym yna bydd y frech goch yn parhau i ledaenu ac yn cyrraedd yr un raddfa â’r un yn Nulyn yn 1999/2000,” meddai Dr Marion Lyons.

“Bryd hynny cafodd 1,200 o blant eu heintio a bu farw tri.”