Neuadd Brangwyn, Abertawe
Bydd adeilad hanesyddol Neuadd Brangwyn yn Abertawe yn cael ei hadnewyddu yn ystod yr haf.
Mae’r gwaith adfywio’n rhan o gynllun ehangach Cyngor Dinas a Sir Abertawe i adfywio Neuadd y Dref erbyn y flwyddyn nesaf.
Bydd system wresogi a thrydan yr adeilad yn cael eu hadnewyddu fel rhan o’r cynllun sy’n costio nifer o filiynau o bunnoedd.
Bydd arbenigwyr celf yn cael eu penodi er mwyn sicrhau bod gweithiau celf yr adeilad yn cael eu hamddiffyn yn ystod y gwaith adnewyddu.
Mae cloc allanol yr adeilad eisoes wedi cael ei gynnal a’i gadw yn ystod y misoedd diwethaf.
Fe fydd Neuadd Brangwyn ar gau tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau, ond fe fydd yn ail-agor yn 2014.
Gallai rhai o brif ystafelloedd yr adeilad aros ar agor trwy gydol y broses adnewyddu.
‘Cartref i rai o fawrion y byd cerddorol’
Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd David Phillips: “Mae Neuadd Brangwyn yn un o asedau diwylliannol allweddol Abertawe sydd wedi bod yn gartref i rai o fawrion y byd cerddorol ar hyd y blynyddoedd.
“Ond mae’n dechrau dangos ei hoedran erbyn hyn ac mae angen i ni wneud popeth allwn ni i’w hamddiffyn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael ei mwynhau hi.
“Dyna pam fod y lleoliad yn rhan o raglen arwyddocaol o waith cynnal a chadw a gwelliannau yn Neuadd y Dref hanesyddol Graddfa 1, a fydd hefyd yn galluogi’r adeilad i barhau i ateb yr angen ar gyfer swyddfeydd a lle i ddigwyddiadau cyhoeddus.”