Mae cyfres deledu realiti gan gwmni o Ffrainc wedi cael ei chanslo ar ôl i un o’r cyfranwyr farw ar ddiwrnod cyntaf ffilmio’r gyfres.
Bu farw Gerard Babin, 25 oed, o drawiad ar y galon wrth ffilmio’r gyfres Koh Lanta yn Cambodia.
Yn ystod y gyfres mae cyfranwyr yn gorfod cyflawni heriau corfforol er mwyn ennill bwyd. Bob wythnos, fe fyddai pleidlais yn penderfynu pa un o’r cystadleuwyr sy’n gadael y sioe.
Cafodd y gyfres ei chanslo gan y cwmni teledu TF1 yn dilyn marwolaeth Gerard Babin. Mae’r cyfranwyr eraill wedi dychwelyd i Ffrainc.
Nid yw TF1 wedi rhyddhau manylion ynglŷn â beth oedd y cystadleuwyr yn ei wneud pan fu farw Gerard Babin. Ond mae un o gyn gystadleuwyr y gyfres wedi dweud ei fod yn synnu o glywed am y digwyddiad gan fod staff meddygol bob amser wrth law i roi cymorth yn ystod y sioe.