Mae dau ffotograffydd o Gymru wedi cyrraedd y brig mewn cystadleuaeth sy’n gwobrwyo ffotograffiaeth gardd gorau’r byd.

Cafodd portread tyner o lygoden yn cnoi afal gan Alan Price o Nantlle, Caernarfon a phabi Cymreig yn blaguro gan Alan Gregg o Abertawe eu dethol ymhlith rhai o brif enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffydd Gardd Ryngwladol y Flwyddyn.

“Mae gen i hen goeden ‘fala yn fy ngardd i sy’n cynhyrchu cnwd bychan bob blwyddyn,” meddai Alan Price. “Rydan ni’n gadael y ’fala sy’ wedi disgyn i’r creaduriaid gwyllt – bydd adar, malwod, llygod dŵr a llygod bach yn dod i’w bwyta.

“Mi gesglais i nifer o ’falau at ei gilydd, gan ddewis lliwiau amrywiol, a’u gosod nhw mewn grŵp tynn lle’r oeddwn i wedi gweld y llygoden yn bwydo, a gwasgaru darnau o afal er mwyn cymell y llygoden i ddod i fwydo. Gorweddais ar fy mol gyda’r lens yn gorwedd ar beanbag ryw ddau fedr o’r afalau.”

Mae eu lluniau i’w gweld wrth ymyl lluniau buddugol eraill o wlad Pŵyl, China, yr Eidal ac America yn Oriel yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne tan fis Medi.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan International Garden Photographer of the Year ar y cyd gyda Gerddi Kew yn Lloegr. Ewch i http://www.igpoty.com/competition06/winners.asp?parent=winners i weld y gweithiau buddugol eraill.