Bydd cyngerdd i nodi diwedd rhaglenni o ganolfan TV Centre y BBC yn cael ei darlledu heno.
Y grŵp Madness fydd yn dechrau’r sioe sy’n dathlu 53 o flynyddoedd o hanes yr adeilad mawreddog.
Caiff y sioe ei darlledu ar BBC4 am 7.30pm, ac yna fe fydd ‘Goodbye Television Centre’, sy’n olrhain hanes y ganolfan, yn cael ei darlledu am 8.30pm.
Bydd Syr David Attenborough, Syr Michael Parkinson, Syr Terry Wogan, Syr Bruce Forsyth, Ronnie Corbett a Syr David Jason yn hel atgofion.
Bydd y ganolfan yn cau ymhen naw diwrnod, ac araith gan y Pab fydd y darllediad olaf.
Ar ôl i’r ganolfan gau, fe fydd siopau, swyddfeydd, gwestai, fflatiau a sinema yn cael eu codi ar y safle.
Bydd 6,000 o staff yn symud i ganolfan newydd y BBC yng nghanol Llundain, ond mae rhai staff eisoes yn gweithio oddi yno.
Mae disgwyl i rai o gynyrchiadau’r BBC ddychwelyd i’r safle yn 2015.