Mae yna adroddiadau y gallai Matt Smith adael ei rôl fel Doctor Who adeg y Nadolig.

Yn ôl y papur newydd The Sun, y sioe Nadoligaidd fydd ei ymddangosiad olaf ar y rhaglen.

Bu’n chwarae rhan y Doctor ers 2009, pan adawodd David Tennant.

Mae’r BBC wedi wfftio’r honiadau, gan ddweud nad ydyn nhw’n gwybod a fydd e’n aros neu beidio.

Dywedodd Matt Smith ar raglen Jonathan Ross ar ITV yr wythnos diwethaf nad yw’n edrych y tu hwnt i 2013 ar hyn o bryd, a’i fod yn hapus yn y rôl.

Mae’r ffilmio ar gyfer rhaglenni arbennig i ddathlu’r hanner canmlwyddiant eisoes wedi dechrau, ac fe fydd y gyfres newydd yn dechrau ar BBC1 ar ddydd Sadwrn y Pasg.

Mae’r gyfres yn cael ei ffilmio ym Mae Caerdydd.