Bo Mandeville
Mae’r cwango llenyddol Llenyddiaeth Cymru wedi penodi Bo Mandeville yn Bennaeth Canolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Tŷ Newydd yn Llanystumdwy.

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru “bydd Bo yn treulio cyfnod yn Nant Gwrtheyrn er mwyn ychwanegu Cymraeg at y rhestr o ieithoedd y mae’n eu medru, cyn dechrau’n swyddogol yn ei rôl fel Pennaeth Tŷ Newydd wedi’r Pasg.”

Trist iawn feri sad

Ond mewn llythyr at gylchgrawn Golwg mae Marian E. Roberts yn dweud bod y penodiad yn ei gwneud yn drist, ac yn holi sut y bydd Bo Mandeville yn cwblhau ei waith “heb yr un gair o Gymraeg?”

“Yn ddiweddar fe drosglwydodd Llenyddiaeth Cymru y cyfrifoldeb o drefnu’r cynllun nawdd i ‘Awduron ar daith’ o’u pencadlys yng Nghaerdydd i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

“Sut y gall dyn felly heb ymdrwytho yn y diwylliant Cymraeg, ohebu a gweinyddu a gwneud yr holl waith arall mewn canolfan o’r fath?”

Ac meddai Geraint Jones o Drefor wrth Golwg: “Priod waith y lle ydi hybu dysgu ysgrifennu Cymraeg. Rhain rŵan fydd ynglŷn â grantiau i awduron, ac Awduron ar Daith ac ati. Sut all y creadur yma ddelio â dim byd fel’na os nad ydi o yn deall yr iaith?

“Bydd dim eisio dweud pa iaith fydd yn rhaid i weinyddiad y lle fod rŵan, na fydd? Penodi Cymro Cymraeg oedd eisio iddyn nhw. Mae yna ddigon o bobol ’tebol, yn saff o fod.”