Baghdad
Mae o leiaf 56 o bobol wedi cael eu lladd mewn cyfres o ffrwydradau o gwmpas Baghdad medd swyddogion yn Irac.

Daw’r ymosodiadau ar drothwy deng-mlwyddiant goresgyniad y wlad gan luoedd yr Unol Daleithiau ar Fawrth 20 2003.

Bu dros ddwsin o ymosodiadau heddiw, yn bennaf gan fomiau ceir, a chafodd o leiaf 200 o bobol eu hanafu.

Roedd un o’r ffrwydradau mwyaf marwol wrth borth yr Ardal Werdd sy’n gartref i swyddfeydd y llywodraeth a llysgenadaethau tramor.

Ddegawd ers dechrau’r rhyfel yn Irac mae tensiynau sectyddol yn brigo i’r wyneb yn gyson yn y wlad. Mae’n debyg bod oddeutu 100,000 o drigolion Irac wedi marw o ganlyniad i’r rhyfel dros y deng mlynedd diwethaf.