Andrew R T Davies
Mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru wedi beirniadu Prif Weinidog Cymru am annog Llywodraeth Prydain i fenthyg rhagor o arian er mwyn buddsoddi.

Ddoe, roedd Carwyn Jones wedi annog y Canghellor George Osborne i newid ei bolisïau economaidd cyn cyhoeddi’r Gyllideb yfory, ac i fenthyg arian er mwyn hybu twf.

“Does dim twf go iawn wedi bod ers dwy flynedd ac ry’n ni’n llusgo ar hyd y gwaelod tra bod economïau gwledydd eraill yn tyfu,” meddai Carwyn Jones.

Ond mae Andrew RT Davies wedi cyhuddo Carwyn Jones o “economeg y casino.”

“Mae Carwyn Jones yn glynu’n naïf i’r gred y gallwn ni gael y wlad mas o ddyled drwy fynd i fwy o ddyled,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae trafferthion economaidd Prydain wedi eu creu gan y Llywodraeth Lafur flaenorol yn gwario ac yn benthyg gormod, gan greu’r ddyled fwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

“Mae Ceidwadwyr sydd mewn llywodraeth wedi bod yn cymryd penderfyniadau anodd er mwyn lleihau’r diffyg ariannol a sicrhau fod y wlad yn byw o fewn ei gallu,” meddai.