Y Pab Ffransis
Mae Arlywydd Yr Ariannin, Cristina Fernandez de Kirchner, wedi dweud ei bod hi wedi  gofyn i’r Pab ymyrryd yn yr anghydfod rhwng ei gwlad a’r DU am Ynysoedd y Falkland.

Cyn i Cardinal Jorge Mario Bergoglio gael ei ethol fel Pab wythnos ddiwethaf, ef oedd  Archesgob prifddinas Yr Ariannin, Buenos Aires ac mae wedi dweud yn y gorffennol bod Ynysoedd y Falkland yn perthyn i’r Ariannin.

Yn ôl adroddiadau’r BBC, dywedodd yr Arlywydd Kirchner wrth newyddiadurwyr: “Rydym am weld deialog a dyna pam rydym yn gofyn i’r pab i ymyrryd fel bod y ddeialog yn  llwyddiannus.”

Mewn refferendwm a gynhaliwyd wythnos yn ôl, pleidleisiodd mwyafrif llethol o drigolion Ynysoedd y Falkland o blaid parhau i fod yn rhan o diriogaeth y DU.

Bydd Pab Francis yn cael ei orseddu yn ffurfiol mewn offeren arbennig yfory.