Un o gartwnau J M Staniforth
Gwaith Rhyfel Byd Cyntaf un o gartwnyddion papur newydd mwyaf dylanwadol Cymru yw ffocws prosiect digidol newydd.
Mae J M Staniforth (1863-1921) yn fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Western Mail. Cynhyrchodd ddarluniau dyddiol i’r papur yn ystod y rhyfel, gan bortreadu agweddau Cymru tuag at y gyflafan.
Roedd hefyd yn enwog am greu ‘Mam Cymru’ – gwraig ganol oed mewn gwisg Gymreig a oedd yn symbol o Gymru yn yr un ffordd ac yr oedd Britannia a John Bull yn cynrychioli Prydain Fawr.
Casgliad ar-lein
Ond fel rhan o brosiect Creu Cartwnau o’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, sy’n ymestyn dros ddigwyddiadau coffáu canmlwyddiant dechrau’r rhyfel y flwyddyn nesaf, bydd holl gasgliad rhyfel Western Mail Staniforth yn cael ei atgynhyrchu ar wefan newydd.
Prifysgol Abertawe sy’n arwain y prosiect ac maen nhw wedi cael cymorth grant o bron i £70,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri tuag ato.
Bydd hyd at 1,350 o ddelweddau digidol o’r cartwnau yn cael eu cyflwyno, ynghyd â chyd-destun am eu cefndir a sylwadau. Bydd cartwnau a ymddangosodd mewn cyhoeddiadau eraill, gan gynnwys News of the World, hefyd yn cael eu cynnwys ar y wefan.
'Mam Cymru'
Cymeriad aruthrol
Yr hanesydd Cymreig a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau Prifysgol Abertawe, yr Athro Chris Williams, fydd yn arwain y prosiect.
Meddai’r Athro Williams: “Ar adeg pan oedd y Western Mail yn brif ffynhonnell newyddion rhyngwladol a Chymreig i bobl De Cymru, roedd Staniforth yn gymeriad aruthrol o ddylanwadol.
“Mae cartwnau Staniforth ar gyfer y papur yn ystod y rhyfel yn gofnod arbennig o ymateb creadigol un dyn i’r gwrthdaro.
“Er ei fod ar adegau yn defnyddio hiwmor er mwyn cyfleu ei neges, ar y cyfan roedd ei waith yn ddifrifol ei natur, gan ddarparu sylwebaeth ddyddiol ar gynnydd y rhyfel yn Ffrainc ac yn Fflandrys. Gwelodd fod ganddo ddyletswydd i godi calon ac ysgogi cefnogaeth gyhoeddus a chred yn y rhyfel.”
Darlun unigryw
Wrth groesawu’r prosiect, dywedodd Y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae’r cartwnau hyn yn creu darlun unigryw o Gymru ar adeg o dryblith a galar enbyd ac rwy’n falch iawn y byddant ar gael i bawb eu gweld cyn hir.
“Er bod gwaith Staniforth yn cael ei ddisgrifio fel ‘cartwnau’, ni ddylai hyn ddibrisio eu gwerth. Fe wnaeth ei ddychan adlewyrchu gwrthdaro a wnaeth ein llunio ni fel cenedl. Maent gyn bwysiced ag erioed wrth i ni baratoi i goffáu’r canmlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.”
Ychwanegodd yr Athro Williams: “Wrth i ni agosáu at ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014, bydd diddordeb brwd gan y cyhoedd yn y cyfnod hwn. Mae’r prosiect yn cynnig cyfle amserol i ennyn persbectif newydd ar agweddau tuag at y rhyfel ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a fydd yn helpu i ddod â gwaith Staniforth i’r amlwg unwaith yn rhagor.”