Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi annog Llywodraeth y DU i newid ei pholisïau economaidd yn sylweddol cyn y Gyllideb ddydd Mercher.
Ers dod i rym, mae’r Llywodraeth Glymblaid yn San Steffan wedi glynu at ei chynlluniau i fynd i’r afael a dyledion y wlad drwy gyflwyno toriadau mewn gwariant cyhoeddus.
A heddiw fe anfonodd Carwyn Jones neges glir at y Canghellor George Osborne yn dweud bod angen newid cyfeiriad.
Wrth siarad mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Carwyn Jones ei bod yn bryd i George Osborne “ddechrau gwrando” ar y “lleisiau cynyddol.”
Dywedodd: “Does dim twf go iawn wedi bod mewn dwy flynedd ac ry’n ni’n llusgo ar hyd y gwaelod tra bod economïau gwledydd eraill yn tyfu.
“Ry’n ni wedi colli’n statws credyd A Triphlyg… mae ei ddiflaniad wedi bod yn ergyd fawr yn nhermau hygrededd y DU – er bod gweinidogion y DU bellach yn dweud bod y statws yn symbolaidd yn unig.
“Nid yw’r toriadau wedi arwain at dwf, mae’n bryd newid cyfeiriad.”
Ychwanegodd y byddai diwygiadau lles Llywodraeth San Steffan yn arwain at fwy o bobl yn byw mewn tlodi, a’i fod wedi penodi Huw lewis fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am Gymunedau a Thaclo Tlodi er mwyn ceisio lleihau effeithiau’r digwygiadau lles.