Bydd £2 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn y diwydiant awyrofod dros y saith mlynedd nesaf medd y diwydiant a Llywodraeth Prydain.
Mae Llywodraeth Prydain yn buddsoddi £1 biliwn mewn Sefydliad Technoleg Awyrofod newydd ar gyfer y Deyrnas Gyfunol, ac mae’r diwydiant yn buddsoddi’r £1 biliwn arall.
Bydd y sefydliad yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o awyrennau a fydd yn dawelach ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Wrth gyhoeddi’r newydd yn Airbus ym Mryste dywedodd Nick Clegg mai’r bwriad yw sicrhau fod Prydain yn parhau ar flaen y gad yn Ewrop o ran cynhyrchu awyrennau.
Rôl Cymru
Mae 3,000 o gwmnïau awyrofod yn cyflogi 230,000 o weithwyr yng ngwledydd Prydain, a dywed Ysgrifennydd Cymru fod Cymru’n elwa o’r diwydiant hefyd.
“Mae Cymru’n elwa’n fawr o’r buddsoddiad parhaus gan gwmnïau awyrofod pwysig megis Airbus a GE Aviation,” meddai David Jones.
“Ym mis Ionawr eleni ces i’r cyfle i fynd i safle Airbus ym Mrychdyn i weld dros fy hun cymaint o gyfraniad mae’r diwydiant yn ei wneud i’r sector gweithgynhyrchu uwch yn y Deyrnas Gyfunol.
“Mae’r cwmni’n parhau i fod yn un o’r arloeswyr mwyaf cystadleuol yn y sector awyrofod, ac yn cynnal a chefnogi miloedd o swyddi yng Nghymru. Mae graddfa’r cynhyrchu a’r archebion yn parhau i dyfu ac mae safle Brychdyn yn chwarae rôl allweddol yn y llwyddiant hynny.
“Mae Prydain yn ail yn y byd o ran awyrofod, ond yn arweinydd yn Ewrop,” meddai David Jones.
“Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi’r diwydiant.”