Mae ymgyrchwyr dros ddiwygio’r wasg wedi croesawu’r cytundeb trawsbleidiol ynglŷn â mesurau newydd i reoli’r wasg.

Dywedodd y grŵp Hacked Off bod defnyddio Siarter Frenhinol i gefnogi’r corff newydd yn opsiwn “ail orau” ond maen nhw’n  credu hefyd y byddai’r corff rheoleiddio yn “wirioneddol annibynnol” o dan y mesurau a gyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd cyfarwyddwr Hacked Off, Brian Cathcart, mewn cynhadledd i’r wasg: “Rydym yn credu bod siarter yn ail orau ond rydym yn credu y gall y siarter, gyda chefnogaeth gan y tair plaid fwyaf, gyflawni cynigion Levenson ar hunan-reoleiddio yn effeithiol.”

Mae’r  Prif Weinidog David Cameron wedi gwneud cais am ddadl frys yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ar y cynigion.

Fe ddechreuodd y Prif Weinidog ymdrechion munud-olaf i ddod i gytundeb ddoe wrth iddo wynebu cael ei drechu ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin.

Canmolodd Brian Cathcart y tair plaid yn San Steffan ar ddod i gytundeb “er gwaethaf  y codi bwganod gan grwpiau papur newydd pwerus.”

Ychwanegodd: “Mae rhai papurau newydd wedi cam-gynrychioli adroddiad Leveson yn ofnadwy ac yn parhau i wneud hynny.”