Mae cwmni fferyllol AstraZeneca wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared a 700 o swyddi yn y DU dros y tair blynedd nesaf ond yn buddsoddi £330 miliwn.
Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 6,700 o weithwyr yn y DU mewn wyth safle, yn dweud eu bod yn bwriadu agor canolfan ymchwil a datblygiad newydd yng Nghaergrawnt.
Fe fydd 1,600 o swyddi’n cael eu hadleoli o Alderley Park yn Sir Gaer, gyda’r rhan fwyaf yn symud i Gaergrawnt.
Mae’r cwmni wedi pwysleisio ei ymrwymiad i’r DU ond mae undebau llafur wedi condemnio’r penderfyniad gan ddweud y bydd swyddi da yn cael eu colli yn y Gogledd Orllewin.