Raspberry Pi
Mae Element 14, y cwmni sy’n dosbarthu’r cyfrifiadur bychan, Raspberry Pi, wedi datgan y byddan nhw’n symud gwneuthuriad y cyfrifiadur o China i ffatri Sony ym Mhencoed ger Pen-y-Bont ar Ogwr.

Mae’r Raspberry Pi, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr llynedd yn gyfrifiadur maint cerdyn credyd sydd wedi cael ei gynllunio er mwyn annog pobl ifanc i ysgrifennu rhaglenni cyfrifiadurol.

Gwerthwyd pob dyfais, a gafodd ei gynllunio yn y DU ac yn costio £25, o fewn oriau iddo gael ei lansio ac mae bron i filiwn o unedau wedi cael eu gwerthu hyd yma.

Dywedodd Claire Doyle, pennaeth prosiect Raspberry Pi ar ran Element14: “Rydym yn cael ein synnu o hyd gan y galw sydd am y Raspberry Pi ar draws y byd ac wedi gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod digon o stoc.

“Rydym yn credu y dylai rhywbeth a gafodd ei greu yn y DU gael ei gynhyrchu yma hefyd ac ers i ni fynd i bartneriaeth gyda Sony rydym wedi bod yn falch iawn gydag ansawdd y cynnyrch.”