Mae ysgol uwchradd yn Wrecsam wedi cael ei rhoi dan fesurau arbennig yn dilyn arolwg.

Mae Ysgol Clywedog yn arch-ysgol gafodd ei chreu yn 2005 ar ôl uno tair ysgol uwchradd arall, a bydd corff arolygu Estyn bellach yn cadw llygad barcud ar gyrhaeddiad yr ysgol.

Mae Estyn wedi gwneud 10 argymhelliad ar ôl dweud nad yw Ysgol Clywedog wedi gwneud digon i gwrdd â phryderon arolwg blaenorol.

Mae’r pennaeth Martin Hulland, sydd ar ei flwyddyn gyntaf yn bennaeth, wedi dweud fod yr ysgol wedi etifeddu gwendidau ond ei bod hi’n symud i’r cyfeiriad cywir a bod adroddiad Estyn wedi canmol arweinyddiaeth newydd yr ysgol.

Bydd yr adroddiad yn cael ei chyhoeddi i’r cyhoedd ar Fawrth 26 a  bydd Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr yn cynnal cyfarfod i rieni ar Ebrill 9.

Ymateb y Cyngor

Mae’r cynghorydd sir sy’n gyfrifol am addysg yn Wrecsam, Michael Williams, wedi dweud fod ganddyn nhw bryderon am Ysgol Clywedog “ers tro.”

“Roedden ni wedi rhannu’n pryderon ni gydag Estyn cyn yr arolwg diweddar.

“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’r ysgol yn y misoedd sydd i ddod er mwyn sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol.

“Rydym ni’n  cydnabod fod angen gweithredu’n gadarn er mwyn sicrhau fod disgyblion yn Wrecsam yn cael yr addysg orau.”