Y protestiadau yn India yn dilyn yr ymosodiad ar fws
Mae un o’r dynion oedd yn cael ei amau o dreisio a llofruddio merch ar fws yn New Delhi, wedi lladd ei hun yn y carchar.
Roedd Ram Singh wedi ei gyhuddo o yrru’r bws lle cafodd y fyfyrwraig 23, oed ei threisio a’i churo i farwolaeth gan grŵp o chwech o ddynion ym mis Rhagfyr y llynedd. Dywed yr heddlu yng ngharchar Tihar ei fod wedi ei grogi ei hun gyda’i ddillad.
Mae’n debyg bod Singh, ynghyd a phedwar dyn arall sydd hefyd wedi eu cyhuddo o dreisio, llofruddio a chipio, yn cael eu goruchwylio, meddai’r swyddog. Mae dyn arall sydd hefyd wedi ei gyhuddo o’r un troseddau yn cael ei gadw mewn carchar ar wahân am ei fod o dan 16 oed.
Roedd yr ymosodiad wedi cythruddo pobl yn India gan arwain at brotestiadau ar draws y wlad.