Chris Huhne
Fe fydd yr Aelod Seneddol Chris Huhne a’i gyn-wraig Vicky Pryce yn cael eu dedfrydu heddiw am wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae’r cyn weinidog yn y Cabinet a’r economegydd Pryce yn wynebu cyfnod yn y carchar pan fyddan nhw’n cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Southwark prynhawn ma.
Cafwyd Pryce, 60, yn euog wythnos ddiwethaf o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gymryd pwyntiau Huhne, 58, am or-yrru yn 2003.