Ben bore fory, union ddwy flynedd wedi ffrwydradau a thrychineb gorsaf niwclear Fukushima Daiichi yn Japan, fe fydd aelodau o fudiad ymgyrchu yng Nghymru’n cynnal protest ger Pont Menai.
Rhwng 8 a 9 o’r gloch fory, fe fydd mudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) yn ceisio dangos bod argyfwng Fukushima yn parhau, a bod peryglon ynni niwclear i ddynoliaeth a’r amgylchedd.
“Amcangyfrifir bod hyd at 770,000 terabequerel o ymbelydredd wedi gollwng yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl trychineb Fukushima ym Mawrth 2011,” meddai llefarydd ar ran PAWB.
“Yn y cyfanswm hwn, gollyngwyd 15,000 terabequerel o caesium ymbelydrol i’r amgylchedd. Mae hyn yn hafal i 168 gwaith yr ymbelydredd a ollyngwyd wrth fomio Hiroshima yn 1945.
“Mae caesium yn llygrwr ymbelydrol a bywyd hir iawn iddo.
“Mae ymbelydredd wedi ymddangos mewn llefrith a llysiau yng ngogledd Siapan ac am gyfnod byr yn nwr yfed Tokyo,” meddai PAWB wedyn.
“Mae llygredd ymbelydrol mewn rhannau o’r Môr Tawel yn agos at Fukushima ar lefelau 4000 gwaith dros y terfyn cyfreithiol.
“Nid yw’r lefelau ymbelydrol ger Fukushima yn gostwng. Awgryma hynny bod gollwng parhaol o lygredd ymbelydrol i’r môr.”
Mae llywodraeth Japan wedi amcangyfrif y bydd hi’n costio £188 biliwn i ail-deiladu yn dilyn y daeargryn, y tswnami a’r argyfwng niwclear.