Mae heddlu Pen-y-bont ar Ogwr yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad o siop fawr rhwng 8 o’r gloch nos Lun, Chwefror 18, a 7.30 y bore wedyn.
Fe aeth y troseddwyr i mewn i siop Wickes ar stad manwerthu Picton Court ger ffordd yr A48 wedi iddyn nhw dorri trwy ffens, cyn torri eu ffordd i mewn i’r adeilad ei hun trwy wal ddur.
Fe gafodd nifer fawr o offer pwerus fel driliau eu dwyn, ynghyd â dillad gwaith.
Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth ynglyn â’r lladrad, i gysylltu â nhw.
“Dydyn ni ddim yn fodlon derbyn y math yma o ymddygiad,” meddai’r Detectif Gwnstabl Melanie Deere o CID Pen-y-bont ar Ogwr.