Mae chwilwyr wedi dod o hyd i awyren cario cargo yn Alaska, ynghyd â chyrff y peilot a’r peilot cynorthwyol.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r Beechcraft 1900 yn gynnar fore Sadwrn, wedi i’r awyren blymio i’r ddaear ddydd Gwener.
Oherwydd y niwl a’r eira, roedd y gwaith o chwilio am yr awyren ymysg y tir mynyddig wedi ei lesteirio.
Mae’r peilot a’r peilot cynorthwyol wedi eu hadnabod a’u henwi’n swyddogol, Jeff Day, 38 oed, a Neil Jensen, 20 oed. Roedd y ddau’n hanu o Anchorage.