Mae teulu a chyfeillion wedi bod yn cofio gwleidydd o Mississippi a gafodd ei ladd y mis diwetha’.

Fe ddaeth cannoedd o bobol ynghyd yng Ngholeg Sir Coahoma ar gyfer angladd Marco McMillian.

Fe gafodd yr ymgeisydd am swydd Maer Clarksdale ei ladd ddiwedd Chwefror, ac mae gwr 22 oed o’r enw Lawrence Reed wedi cael ei gyhuddo o’r drosedd.

Yn ôl Carter Womack, tad bedydd Marco McMillian, mae’r teulu’n gobeithio y bydd cyfiawnder yn ennill y dydd. Maen nhw hefyd yn apelio am unrhyw wybodaeth am y drosedd a laddodd y gwleidydd 33 oed.