Mae morwr wedi marw, ac mae pump arall wedi cael eu hachub ar ôl anfon neges argyfwng yn ystod ras oddi ar arfordir de Califfornia.

Fe alwon nhw Wylwyr y Glannau wedi i’w cwch hwyliau 32 troedfedd golli ei drywydd mewn dyfroedd garw ac anelu am ynys greigiog.

Roedd criw y cwch, Uncontrollable Urge, wedi anfon neges radio nos Wener ddiwetha’ yng nghyffiniau ynys San Clemente.