Mae grwp o 20 o bobol wedi ymosod ar swyddfa heddlu yng nghanol Athen. Fe fuon nhw’n taflu bomiau tân, cyn rhoi dau feic modur ar dân a dianc wedyn ar droed.
Yn ôl heddlu yng ngwlad Groeg, fe gafodd deg o fomiaau eu taflu at yr orsaf heddlu, ond fe gafodd y tân ei ddiffodd yn weddol gyflym.
Roedd un beic modur yn perthyn i’r heddlu, a’r llall i aelod o’r cyhoedd, ond chafodd neb ei anafu.
Mae nifer o orsafoedd tân wedi dod dan ymosodiad anarchwyr peryglus, yn ôl yr heddlu, a’r rhan fwya’n defnyddio bomiau tân.