Mae Nelson Mandela wedi treulio noson yn yr ysbyty ar ôl cael ei gludo yno am brofion.

Yn ôl llefarydd ar ran swyddfa Arlywydd De Affrica, mae’r cyn-arweinydd 94 oed yn sefydlog ers iddo gyrraedd yr ysbyty yn Pretoria brynhawn Sadwrn.

“Does dim rheswm tros ddychryn na phoeni,” meddai’r datganiad.

Fe dreuliodd Nelson Mandela dair wythnos yn ystod mis Rhagfyr y llynedd, cyn dychwelyd i’w gartref ar Ragfyr 26. Bryd hynny, fe gafodd ei drin am haint ar ei ysgyfaint, yn ogystal â chael llawdriniaeth i dynnu cerrig bustl.