Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, dan bwysau eto yr wythnos hon, wedi i bôl piniwn newydd ddangos mai dim ond 27% sy’n cefnogi ei blaid.
Mae hynny’n gosod y Ceidwadwyr ar un o’u lefelau isaf ers blynyddoedd.
Yn ôl yr ymchwil gan Opinium ar gyfer papur newydd yr Observer, mae’r blaid Ukip yn dynn ar sodlau’r Torïaid ar 17%, wedi iddi lwyddo i ddenu pleidleiswyr oddi wrth y Ceidwadwyr a Llafur.
Yn ôl y pôl piniwn, mae David Cameron ei hun hefyd wedi colli cefnogaeth bersonol – mae ei boblogrwydd bellach yn 18%, 8% yn is na’r pôl diwetha’.