Mae un o gantorion mwya’ adnabyddus Cymru wedi siarad am ei frwydr yn erbyn canser y gwddw, gan gyfadde’ y bydd yn rhaid iddo ddisgwyl deufis arall cyn cael gwybod a ydi e wedi concro’r clefyd.  

Yn rhifyn heddiw o’r papur newydd Wales on Sunday, mae Meic Stevens yn dweud ei fod yn ymladd canser ers yr haf y llynedd. Bryd hynny yr aeth at ei ddeintydd, a hwnnw’n gweld chwydd a rash rhyfedd yn ei wddw.

O fewn dim, fe gafodd tiwmor yr un maint â phêl golff ei losgi o wddw’r swynwr o Solfa gyda radiotherapi, cyn iddo wrthod llawdriniaeth bellach.

Roedd peryg, yn ôl yr erthygl, y byddai Meic Stevens yn colli rhan helaeth o’i dafod o ganlyniad i fynd dan y gyllell – ac na fyddai gobaith iddo ganu eto.

“Wy wedi gofyn i’r meddygon, ond so neb yn gallu dweud beth sy’n achosi canser,” meddai Meic Stevens wrth y Wales on Sunday.

“Allen i ddim cael llawdriniaeth, achos fe fydde hynny’n golygu torri dwy ran o dair o fy nhafod i bant… ac fe fyddai hynny’n ddiwedd ar y canu.

“Beth yw’r pwynt o fod ofn?” meddai Meic Stevens wedyn. “Fe fydd popeth yn iawn.”