Does yr un heddwas yng Nghymru wedi cael ei erlyn am lygredd yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, ar waethaf llu o gwynion.
Yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru, fe ddatgelodd y pedwar llu yng Nghymru na fu’r un o’u swyddogion yn y llys er i ymchwiliadau mewnol eu cael yn euog.
Tra bod tri o heddluoedd Cymru wedi mynd mor bell â disgyblu swyddogion y gwnaed honiadau yn eu herbyn, methodd Heddlu Dyfed-Powys â chymryd unrhyw gamau yn erbyn swyddogion.
Canfu’r data hefyd mai cyfran fechan iawn o gwynion a gadarnhawyd.
Y ffigyrau
Rhwng Ebrill 2008 a Rhagfyr llynedd, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 80 honiad o ddatgelu amhriodol, 36 honiad o arfer llwgr, a 141 honiad o afreoleidd-dra mewn tystiolaeth/tyngu anudon. 16 yn unig o’r honiadau hyn a gadarnhawyd.
Wrth ateb y cwestiwn ynghylch â pha gamau disgyblu eu erlyniadau troseddol a ddeilliodd o’r honiadau a gadarnhawyd, atebodd yr heddlu:
“Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn dal unrhyw wybodaeth am hyn. Y rheswm yw nad arweiniodd yr un o’r honiadau a ‘gadarnhawyd’ y cyfeirir atynt yng Nghwestiwn 2 at gamau disgyblu nac erlyniadau.”
Dros yr un cyfnod, derbyniodd Heddlu Gwent 56 o gwynion, gyda dau yn cael eu ‘profi’. Mae tri achos hefyd yn ‘cael eu trin ar hyn o bryd’. Dywedasant na fu unrhyw erlyniadau troseddol, ond y cafwyd dau achos o ddisgyblu.
Y sefyllfa yn y De
Derbyniodd Heddlu De Cymru 57 cwyn am lygredd yn yr heddlu, ac un yn unig a brofwyd. Arweiniodd hynny at gamau disgyblu, ond nid erlyniad troseddol.
Heddlu Gogledd Cymru a gofnododd y nifer lleiaf o gwynion am lygredd yn yr heddlu o holl heddluoedd Cymru, gydag 14 ers Ebrill 2008.
Ni chafodd yr un o’r rhain eu cadarnhau hyd yma, er bod tri yn cael eu trin ar hyn o bryd, a bod tri wedi eu ‘rhoi o’r neilltu gan yr IPCC.’
“Pryder” Plaid Cymru
Meddai Rhodri Glyn Thomas, llefarydd Plaid Cymru yn y Cynulliad ar blismona: “Mae’n fater o bryder mawr na chafodd yr un heddwas Cymreig ei erlyn mewn llys barn, er iddynt eu cael yn euog o arfer llwgr ym marn eu cyflogwyr.
“Yr hyn sy’n achosi mwy o bryder yw na welodd Heddlu Dyfed-Powys eu ffordd hyd yn oed i ddisgyblu unrhyw rai o’r swyddogion a gafwyd yn euog o gamymddwyn.
“Mae’n bwysig iawn nad yw’r heddlu uwchlaw’r gyfraith nac yn gallu dianc canlyniadau unrhyw gamymddwyn.
“Dylai eu hymddygiad fod o’r safon uchaf, ac os nad ydyw, ac y tybir ei fod yn droseddol, dylent wynebu’r camau cyfreithiol priodol.
“Mae angen i safonau heddlu fod yn uchel iawn os am gynnal ffydd a hyder y cyhoedd. Mae angen i bedwar heddlu Cymru gadw hyn mewn cof yn ofalus iawn pan fo honiadau o lygredd yr heddlu yn cael eu profi mewn ymchwiliadau mewnol.”