Mae disgwyl i apêl yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, yn erbyn y penderfyniad i ganiatau i’r pregethwr radical, Abu Qatada, i aros yn y Deyrnas Unedig, gael ei glywed fory.
Fe fydd tri o farnwyr y Llys Apêl, dan arweiniad yr Arglwydd Dyson, yn gwrando’r achos.
Fis Tachwedd y llynedd, fe benderfynodd y Comisiwn Arbennig ar Apeliadau Mewnfuno (SIAC) na ellid yn gyfreithiol anfon Qatada allan o wledydd Prydain.
Ond mae Theresa May yn galw am ei ystraddodi i wlad yr Iorddonen, lle mae wedi cael ei ddyfarnu’n euog (yn ei absenoldeb) o gyhuddiadau terfysgol yn 1999.