Mae ofnau bod gwr o wledydd Prydain yn farw, wedi adroddiadau fod grwp o wystlon wedi cael ei ladd yn Nigeria.
Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud ei bod yn “ymchwilio ar frys” honiadau gan grwp eithafol Islamaidd ei fod wedi lladd saith o dramorwyr a gafodd eu herwgipio yng ngogledd Nigeria.
“Rydym yn ymwybodol o adroddiadau am farwolaeth dinesydd Prydeinig yn Nigeria, ac rydym yn ymchwilio ar ar frys,” meddai llefarydd.