Mae trigolion ynysoedd y Malfinas (y Falklands) yn bwrw’u pleidlais heddiw mewn refferendwm ar fater aros yn ddinasyddion Prydeinig ai peidio.
Mae tensiynau cynyddol rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Ariannin tros sofraniaeth y tiroedd yn Ne America.
Mae disgwyl i’r gymuned fechan bleidleisio’n unfrydol tros gadw’i statws fel un o diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig.
Mae cynrychiolwyr Prydain yn Port Stanley yn gobeithio y bydd y canlyniad yn anfon neges glir i’r Ariannin, sydd i weld yn benderfynol o ddefnyddio’r ynysoedd fel ffordd o godi gwrychyn.
Mae goruchwylwyr allanol yn cael eu dwyn i mewn i wneud yn siwr fod yr etholiadau’n cael eu cynnal yn rhydd ac yn deg.