Owain Môn Roberts
Mae hi’n flwyddyn heddiw ers diflaniad dyn 37 mlwydd oed o Aberteifi, ac mae ei deulu yn apelio unwaith eto am unrhyw wybodaeth a allai fod o help wrth geisio dod o hyd iddo.
Y tro diwetha’ i neb weld Owain Môn Roberts oedd ar fore Sadwrn, Mawrth 10, 2012, pan adawodd ei gartre’ yn Aberteifi er mwyn mynd i gerdded ar Lwybr Arfordir Ceredigion.
“R’yn ni’n dal i chwilio am Owain, a d’yn ni ddim wedi rhoi’r gorau i obeithio,” meddai ei deulu.
“Os oes gan unrhyw un wybodaeth, plis cysylltwch â’r heddlu.”
Fe fydd Heddlu Dyfed-Powys yn dosbarthu taflenni yn ardal y Mwnt heddiw, yn y gobaith y gallan nhw sbarduno pobol i gofio’n ôl.
Dylai unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am Owain Môn Roberts gysylltu â’r heddlu ar y rhif 101.