Yr Alban 18–28 Cymru

Mae gobeithion main Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw o hyd yn dilyn trydedd buddugoliaeth oddi cartref yn olynol brynhawn Sadwrn.

Gêm ddigon diflas oedd hi yn erbyn yr Albanwyr yn Murrayfield, ac er i Leigh Halfpenny gael dechrau digon sigledig wrth anelu at y pyst, daeth o hyd i’w esgidiau cicio ar gyfer yr ail hanner ac roedd ei bwyntiau ef ynghyd â chais hanner cyntaf Richard Hibbard yn ddigon i ennill y gêm i’r ymwelwyr.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Cymru yn bwrpasol ac arweiniodd hynny at dri phwynt cyntaf y gêm o droed Halfpenny wedi pum munud.

Ond roedd yr ymwelwyr ar ei hôl hi ddeg munud yn ddiweddarach yn dilyn dwy gic gosb lwyddiannus gan y mewnwr cartref, Greg Laidlaw.

Roedd Halfpenny yn ei chael hi’n anodd yn y gwynt, ac yn anodweddiadol iawn, fe fethodd y cefnwr dair cic gosb mewn cyfnod o chwe munud yng nghanol yr hanner.

Ond roedd Cymru ar y blaen yn fuan wedyn serch hynny diolch i unig gais y gêm gan Hibbard. George North a wnaeth y bylchiad gwreiddiol i ennill y tir cyn i’r blaenwyr bwyso a galluogi’r bachwr i blymio drosodd a thirio.

Trosodd Halfpenny i roi pedwar pwynt o fantais haeddianol i Gymru ond er nad oedd yr Alban yn cynnig fawr ddim yn ymosodol roedd Laidlaw yn cipio pwyntiau gyda phob cyfle ac roedd yr Albanwyr yn ôl ar y blaen ar ôl dwy gic lwyddiannus arall.

Ond Cymru a Halfpenny a gafodd y gair olaf am yr hanner wrth iddo adfer y fantais gyda chic olaf yr hanner.

Ail Hanner

Doedd y gêm ddim gwell yn yr ail gyfnod, gwaeth os rhywbeth, a brwydr rhwng y ddau giciwr oedd hi mewn deugain munud bratiog, blêr.

Cyfnewidiodd Halfpenny a Laidlaw gic gosb yr un yn y deg munud cyntaf cyn i Halfpenny lwyddo gyda dwy arall i roi mantais o saith pwynt i’w wlad am y tro cyntaf yn y gêm toc cyn yr awr.

Llwyddodd Laidlaw eto yn syth wedyn cyn methu gyda’i gynnig nesaf. Yna, trosodd Halfpenny chwe phwynt arall i roi deg pwynt rhwng y timau gydag wyth munud yn weddill ac er i’r Alban geisio ymosod yn y munudau olaf daliodd amddiffyn Cymru yn gadarn am y drydedd gêm yn olynol.

Ymateb

Mike Phillips, mewnwr Cymru:

“Odd rhaid i ni ennill ’to bant o gartre’, ma’ fe’n lle anodd iawn i ddod felly pob clod i’r bois. Odd y sgrym heddi’ yn arbennig ’to ac odd ein amddiffyn ni hefyd yn grêt.”

“Ar ôl colli’r gêm gyntaf ry’n i wedi dod yn ôl ac ennill tair bant o gartre’, ry’ ni wedi dangos calon ac ysbryd felly gobeithio y gallwn ni orffen gyda buddugoliaeth gartre’ yn erbyn Lloegr wythnos nesaf.”

Aros yn ail mae Cymru yn nhabl y Chwe Gwlad er gwaethaf y fuddugoliaeth. Mae Lloegr ar y blaen gyda gwahaniaeth pwyntiau sydd saith yn well ac mae hynny cyn iddynt herio’r Eidal yfory.

.

Yr Alban

Ciciau Cosb: Greg Laidlaw 6’, 13’, 27’, 38’, 49’, 60’

.

Cymru

Cais: Richard Hibbard 22’

Trosiad: Leigh Halfpenny 24’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 5’, 21’, 40’, 47’, 56’, 58’, 68’, 28’

Cerdyn Melyn: Paul James 79’